SL(6)232 – Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022
Cefndir a diben
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg ("safonau"). Mae'r safonau hyn yn disodli'r cynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) (“y Rheoliadau”) yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau; safonau llunio polisi; safonau gweithredu; a safonau cadw cofnodion. Mae'r Rheoliadau yn gwneud y safonau yn benodol gymwys i berson a restrir yn Atodlen 6 (“y cyrff”). Awdurdodir Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny mewn perthynas â’r safonau a bennir, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2). Y cyrff hynny yw:
· Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
· Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
· Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
· Y Cyngor Optegol Cyffredinol
· Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
· Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol
· Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
· Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
· Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r Rheoliadau hyn yn dilyn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (“Rheoliadau 2018”), a oedd yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Fel arfer mae rhif yn enw un o gyfres o Offerynnau Statudol yn cyfeirio at y nifer a wnaed yn y flwyddyn benodol. Yn yr achos hwn mae’r rhif yn cyfeirio at y gyfres gyfan o Reoliadau Safonau, sy’n parhau o Reoliadau 2018, yn yr un modd ag y mae gorchmynion cychwyn wedi’u rhifo.
Mae'r Rheoliadau hyn yn defnyddio'r wyddor Gymraeg yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau. Mae’r arddull hon yn wahanol i’r arddull rifo arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.
Cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar Reoliadau drafft Safonau’r Gymraeg rhwng 16 Mawrth 2020 a 2 Hydref 2020. Yn sgil pandemig COVID-19, estynnwyd yr ymgynghoriad er mwyn i bawb sydd â diddordeb yn y Rheoliadau drafft gael cyfle i rannu eu barn. Daw’r Rheoliadau’n i rym ar 31 Hydref 2022, os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Gweithdrefn
Cadarnhaol Drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Trafododd y Pwyllgor y Rheoliadau hyn yn ei gyfarfod ar 27 Mehefin 2022. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Rheoliadau, ysgrifennodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn nodi bwriad y Gweinidog i dynnu’r Rheoliadau’n ôl ac ail-osod fersiwn wedi'i chywiro ohonynt. Cafodd y Rheoliadau hyn eu hail-osod ar 30 Mehefin 2022.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
5 Gorffennaf 2022